OFFERYNNAU STATUDOL
2000 Rhif 977 (Cy. 47 )
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2000 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2000 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 iddi a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:-
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989
2.
Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989[2] (cyfrifo ffioedd), ym mharagraff (5), yn lle "£348" yn y ddau fan lle mae'n digwydd rhoddir "£354".
Diddymu
3.
Diddymir drwy hyn Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio 1999[3].
Darpariaethau Trosiannol
4.
Pan gyflenwir offer ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, neu pan ddarperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol eraill, yn unol â chontract neu drefniant i ddarparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, bydd rheoliad 4(5) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 yn cael effaith mewn perthynas â'r cyflenwad hwnnw neu'r ddarpariaeth arall honno fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 i godi o £348 i £354 yr uchafswm sy'n daladwy gan y claf am driniaeth neu offer deintyddol, pan fydd y contract neu'r trefniant sy'n arwain at ddarparu triniaeth neu offer o'r fath yn cael ei wneud ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler a.128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), a.26(2)(g) ac (i), ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Mewnosodwyd adran 79A gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), a.11(3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 79A, a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[2]
1989/394; O.S. 1991/581, 1992/369, 1993/419, 1994/530, 1995/444, 1996/389, 1997/558, 1998/490 a 1999/544 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back
[3]
O.S. 1999/544.back
[4]
1998 p.38.back
English version
|