![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011423w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 5 Ebrill 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Mai 2001 |
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau 1997
2.
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (dehongli), yn y diffiniad o "NHS sight test fee", yn lle'r swm "£42.79" rhowch "£42.85" ac yn lle'r swm "£15.46" rhowch "£15.52".
3.
- (1) Caiff rheoliad 12 o Reoliadau 1997 (defnyddio talebau ar gyfer cyflenwi cyfarpar optegol) ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) yn lle "paragraphs (4) and (5)", rhowch "paragraphs (4), (5) and (6)".
(3) Ar ôl paragraff (5) ychwanegwch -
4.
Ar ddiwedd rheoliad 13 o Reoliadau 1997 (taliadau i gyflenwyr), ychwanegwch -
5.
Yn rheoliad 16 o Reoliadau 1997 (cwblhau talebau), yn lle paragraffau (2) a (3) rhowch -
(d) if the patient has been asked for, but not shown, satisfactory evidence of entitlement, record the fact on the voucher.
(3) In the case of repair, the supplier shall -
(d) duly complete the relevant parts of the voucher with -
(e) if the patient has been asked for, but not shown, satisfactory evidence of entitlement, record the fact on the voucher.".
6.
Ar ddiwedd rheoliad 18 o Reoliadau 1997 (taliadau i gyflenwyr am amnewid a thrwsio), ychwanegwch -
Diwygio Rheoliadau 1986
7.
Yn rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), caiff y canlynol ei fewnosod yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
8.
- (1) Caiff rheoliad 6 o Reoliadau 1986 (rhestr offthalmig) ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff (3)(b) ar ôl "provide general ophthalmic services" ychwanegwch ", or in the case of a mobile practice, the address to which correspondence in connection with such provision may be sent, and the addresses of any day or residential centres they intend to visit more than once; ".
(3) Ym mharagraff (3)(c) ar ôl "at those addresses" ychwanegwch ", or in the case of day or residential centres, the months in which such visits are intended to take place and the planned interval between such visits;".
9.
- (1) Caiff rheoliad 13A (profion golwg - ceisiadau), ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Yn lle paragraff 4(a) rhowch -
(3) Ar ôl paragraff (5) ychwanegwch y paragraffau canlynol -
10.
Yn lle rheoliad 16 (cyflwyno dogfennau i gontractwyr) rhowch -
11.
- (1) Caiff Atodlen 1 (telerau gwasanaeth) ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 2 (ymgorffori darpariaethau) -
(b) yn lle is-baragraff (c) rhowch -
(3) Ym mharagraff 3 (safleoedd lle mae gwasanaethau offthalmig cyffredinol i gael eu darparu) yn lle is-baragraff (2) rhowch -
(4) ar ôl paragraff 3 mewnosodwch y paragraff canlynol -
(5) Ym mharagraff 4 (safleoedd ac offer) -
(8) Ym mharagraff 10 (profi'r golwg), yn is-baragraff (2) yn lle "he shall so inform the patient's doctor" rhowch "he shall, if appropriate, and with the consent of the patient, inform the patient's doctor of his opinion.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2001
Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.
Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, Rhan I, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1);
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 2000/3119.back
[3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395, 1989/1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705, 1996/2320, 1999/693 a 1999/2481.back
Prepared
30 May 2001