BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020156w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 156 (Cy.22)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 29 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002.

    
2. 1 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a benodir i'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru[3] a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996 ddod yn effeithiol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Cod Ymarfer sy'n rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut y dylai awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddeddf honno mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig, ac yn caniatáu iddo ddiwygio'r Cod o dro i dro. Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi Cod o dan y teitl Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2002 yn ddyddiad i'r Cod ddod i rym.

Gellir cael copïau o'r Cod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk

Mae'r Cod, mewn perthynas â Chymru, yn disodli Rhestr Argymhellion gynharach a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ar y cyd, ar 25 Mai 1994.


Notes:

[1] 1996 p.56.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back

[3] ISBN 0 7504 27574 Gellir cael copïau o'r Cod (sy'n gymwys i Gymru yn unig) oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090419 2


  Prepared 11 February 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020156w.html