![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020677w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 12 Mawrth 2002 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2002 |
4.
- (1) Diwygir erthygl 3 (olrhain cychod pysgota â lloeren) o'r Gorchymyn fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3), dilëir is-baragraff (b) gan fewnosod yn union ar ôl is-baragraff (a) -
(3) Dilëir paragraff (4) gan roi'r paragraffau canlynol yn ei le -
(b) pan nad yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio, o leiaf bob awr.
(6) Rhaid peidio â thrin y naill na'r llall o'r amgylchiadau canlynol fel rhai sy'n arwain at dorri'r gofyniad ym mharagraff (3)(b) -
(7) Drwy gydol unrhyw gyfnod -
heb ragfarnu Erthygl 6.1 o Reoliad 1489/97 (y gofyniad i drosglwyddo gwybodaeth i ganolfannau monitro gwladwriaethau'r faner ac, os yw'n briodol, gwladwriaethau'r arfordir drwy ddulliau eraill o leiaf bob 24 awr), rhaid trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy un o'r dulliau a bennir yn yr Erthygl honno o leiaf bob dwy awr.".
5.
Mae Erthygl 4(2) (tramgwyddau) o'r Gorchymyn yn cael ei diddymu.
6.
Yn erthygl 5(1) (cosbau) o'r Gorchymyn yn lle "neu (4)" mewnosodir "neu (7)".
7.
Yn erthygl 6(3), dilëir y geiriau "adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980,".
8.
- (1) Mae Erthygl 7 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn perthynas â chychod pysgota) o'r Gorchymyn yn cael ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle "i (4)" rhoddir "i (8)".
(3) Ar ôl paragraff (4) mewnosodir -
(7) Rhaid peidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (6) yn ddiweddarach na 30 diwrnod ar ôl y diwrnod diwethaf y methodd y ddyfais olrhain loerennol â gweithredu yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn ym marn y swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(8) Yn yr erthygl hon -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2002
[3] O.S. 2000/108 (Cy. 71).back
[4] 1981 p. 29; cafodd O.S. 2000/191 ei wneud o dan adran 30(2).back
Prepared
5 April 2002