BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 181 (Cy.14)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050181w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 181 (Cy.14)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 1 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 2 Chwefror 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 24 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Diwygiadau i Reoliadau 1993
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau 1993 yn unol â pharagraffau (2) i (4).

    (2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o "list" rhodder  - 

    (3) Yn rheoliad 5  - 

    (4) Yn rheoliad 15(1), yn lle "section 22(8) or section 22A(10)", rhodder "section 22(8), section 22A(10) or section 22B(10)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Chwefror 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993 ("Rheoliadau 1993").

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 24 (Newid rhestrau) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992"). Mae adran 24 o Ddeddf 1992 yn caniatáu i'r Cynulliad wneud rheoliadau ynghylch newid rhestrau prisio a luniwyd o dan Bennod II (Rhestrau Prisio) o Ran I o Ddeddf 1992 a hynny gan swyddogion rhestru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1993. Yn benodol, mae rheoliad 3(2) yn diwygio'r diffiniad o "list" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1993, fel bod "list" at ddibenion y Rheoliadau hynny (heblaw mewn perthynas â rheoliad 5(1A), (3) a (3A)) yn golygu rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22, adran 22A neu adran 22B o Ddeddf 1992. Mewnosodwyd adran 22B (Llunio a chynnal rhestrau newydd) yn Neddf 1992 gan adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 22B yn ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog rhestru dros awdurdod bilio i lunio a chynnal rhestrau prisio newydd ar gyfer yr awdurdod. Daw rhestrau a luniwyd o dan adran 22B o Ddeddf 1992 i rym ar 1 Ebrill 2005.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1993. Mae rheoliad 3(3)(a) yn mewnosod rheoliad 5(1A) newydd yn Rheoliadau 1993, a'i heffaith fydd, yn ddarostyngedig i bedair eithriad, na chaniateir gwneud cynnig i newid rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22 neu adran 22A o Ddeddf 1992 yn ddiweddarach na 31 Rhagfyr 2005.

Mae rheoliad 3(3)(b) yn diwygio rheoliad 5(3) o Reoliadau 1993 fel y bydd yn ymwneud yn unig â rhestrau prisio a luniwyd o dan adran 22 neu adran 22A o Ddeddf 1992.

Mae rheoliad 3(3)(c) yn mewnosod rheoliad 5(3A) newydd yn Rheoliadau 1993. Mae rheoliad 5(3A) yn darparu, yn ddarostyngedig i reoliadau 5(4) ac 8(3)(a) o Reoliadau 1993, os bydd, o ran annedd a ddangosir mewn rhestr brisio adran 22B ar y diwrnod pan lunir y rhestr honno, awdurdod bilio neu berson â buddiant o'r farn bod y rhestr yn anghywir oherwydd bod y swyddog rhestru wedi dyfarnu band prisio anghywir, rhaid gwneud unrhyw gynnig i newid y rhestr o ran y mater hwnnw ddim diweddarach na 30 Medi 2006.

Mae rheoliad 3(4) yn mewnosod cyfeiriad at adran 22B(10) o Ddeddf 1992 yn rheoliad 15(1) o Reoliadau 1993. Mae adran 22B(10) o Ddeddf 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bilio i adneuo copi o'r rhestr brisio a dderbynnir ganddo o dan adran 22B(9) o'r Ddeddf honno yn ei brif swyddfa. Mae rheoliad 15(1) yn ymwneud â'r terfyn amser o fewn pa bryd y mae swyddog rhestru (ar ôl iddo newid rhestr brisio) i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod bilio yn datgan effaith y newid hwnnw. Mae rheoliad 15(1) yn gorfodi'r awdurdod hwnnw i newid y copi o'r rhestr brisio a adneuwyd yn ei brif swyddfa.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/290 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1746, O.S. 1995/363, O.S. 1996/613, O.S. 1996/619, O.S. 2000/409 ac O.S. 2001/1439.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091063 X


  © Crown copyright 2005

Prepared 10 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050181w.html